04th February 2020

Linc Achieves Investors In Diversity Accreditation

Corporate News
Recognised as the national equality standard, the Investors in Diversity Award, supports organisations to improve and develop practices that promote equality and diversity.

Linc Cymru (Linc), a housing association and care provider, achieved the award following engagement with staff and customers.

Staff across Linc took part in an online survey, which gave them the opportunity to provide feedback in an anonymous way, while workshops also took place with small groups of staff as well as customers, who gave a real insight into Linc’s culture.

The results of the feedback from both staff and customer workshops, demonstrated Linc’s commitment to equality and diversity, and a dedication to ongoing improvement in this area.

Scott Sanders, Chief Executive, Linc said:

“At Linc we believe in creating the right environment for people to flourish, where the principles of FREDIE, fairness, respect, equality, diversity, inclusion and engagement, are promoted throughout the organisation.

Our staff and customers really engaged with the process of achieving the award and we are seeing them promote the FREDIE principles in our day to day work.

We are thrilled to have been recognised by the National Centre for Diversity and will continue to embed a strong belief in equality and diversity within our culture.”

Solat Chaudhry, Chief Executive of the National Centre for Diversity, commented:

“We are delighted that Linc Cymru Housing Association have achieved the Investors in Diversity Award, and I would like to extend our congratulations to their leaders, staff and tenants on their success to date. 

Achievement of the National Centre for Diversity's Investors in Diversity Standard demonstrates that Linc Cymru has not only committed to building a culture of fairness, respect, equality, diversity, inclusion and engagement (FREDIE), it also shows that it can evidence this in a practical way.”

 

Linc Yn Cyflawni Achrediad Buddsoddwyr Mewn Amrywiaeth

Mae’r Dyfarniad Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth, sy’n cael ei gydnabod fel y safon gydraddoldeb genedlaethol, yn cefnogi sefydliadau i wella a datblygu arferion sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Llwyddodd Linc Cymru (Linc), cymdeithas dai a darparwr gofal, i ennill y dyfarniad ar ôl ymgysylltu â staff a chwsmeriaid.

Bu staff ledled Linc yn cymryd rhan mewn arolwg ar-lein, oedd yn gyfle iddynt roi adborth heb ddatgelu eu henwau. Cynhaliwyd gweithdai hefyd gyda grwpiau bach o staff yn ogystal â chwsmeriaid, a thrwyddynt fe gafwyd cipolwg go iawn ar ddiwylliant Linc.

Roedd canlyniadau’r adborth gan staff a chwsmeriaid gweithdai, yn dangos ymrwymiad Linc i gydraddoldeb ac amrywiaeth, a’u hymroddiad i welliannau parhaus yn y maes.

Meddai Scott Sanders, Prif Weithredwr Linc:

“Yn Linc, rydym yn credu mewn creu’r amgylchedd iawn er mwyn i bobl ffynnu, lle mae egwyddorion tegwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltu, yn cael eu hyrwyddo drwy’r sefydliad.

Mae ein staff a’n cwsmeriaid yn ymgysylltu go iawn â’r broses o ennill y dyfarniad ac rydym yn eu gweld yn hyrwyddo’r egwyddorion sylfaenol hyn yn ein gwaith o ddydd i ddydd.

Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod gan Ganolfan Genedlaethol Amrywiaeth a byddwn yn dal ati i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan greiddiol o’n diwylliant.”

Meddai Solat Chaudhry, Prif Weithredwr Canolfan Genedlaethol Amrywiaeth:

“Rydym ni’n falch iawn bod Cymdeithas Tai Linc Cymru wedi ennill y Dyfarniad Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth, a hoffwn longyfarch eu harweinwyr, eu staff a’u tenantiaid ar eu llwyddiant hyd yma.”

Mae cyflawni Safon Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth Canolfan Genedlaethol Amrywiaeth yn dangos bod Linc Cymru nid yn unig wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o degwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltu, ond mae hefyd yn dangos y gall ddangos tystiolaeth o hyn mewn ffordd ymarferol.”

Share this post