10th October 2020

Work to begin on new health and housing development, Sunnyside Wellness Village

Developments
WRW will start works on the Sunnyside Wellness Village Scheme on Monday 12 October 2020, comprising of site set-up, ground clearance, safety and access route works.

The £23 million scheme is being developed by Linc Cymru Housing Association in partnership with Cwm Taf Morgannwg University Health Board, and Bridgend County Borough Council. This unique housing and health development is being supported by £18 million of funding from Welsh Government.

It will provide a brand-new mixed-use development, on the site of the demolished Bridgend Council Offices and former Magistrates Court, consisting of 59 housing units, a Healthcare Centre and associated works including landscaping and infrastructure.

The housing element consists of two, three and four bedroom 2-storey houses; one and two bedroom bungalows; a 3-storey apartment block providing one and two bed self-contained apartments; and cycle parking for residents.

The 3-storey BREEAM Excellent designed primary healthcare centre will provide consulting and treatment accommodation for the local health board, GP practice, a specialist dental unit, and a pharmacy unit on the ground floor.

The development is being designed to WELL Building standard principles to ensure innovative approaches are used where possible to create a healthy and happy community and to ensure the project delivers a natural community. 

The WELL Building standard puts people’s health and wellness at the centre of building design. The development will feature air filters to improve indoor air quality and the materials used in the build will not contain any harmful chemicals.

Sunnyside Wellness Village will also see a focus on greening. Allotments will provide the community with the opportunity to grow fruit and vegetables, space to relax and enjoy nature will be found in green areas of wildflower planting, while a children’s play area built with natural materials will serve young families.    

Louise Attwood, Director of Property at Linc, said: “Sunnyside Wellness Village is a development that reflects our purpose, creating the right environment for people to flourish.

“By combining health care and housing provision, putting wellbeing at the heart of the development, Sunnyside Wellness Village will provide new homes that meet the needs of local people and support the community through a state-of-the-art health centre provision.  

“We are pleased to be working alongside WRW, Cwm Taf Morgannwg University Health Board and Bridgend County Borough Council on this exciting and innovative development.  As work begins on the scheme, we are excited to see our vision for Sunnyside Wellness Village start to take shape.”

Huw Triggs, Construction Director at WRW, said: “We are delighted to have been chosen by Linc Cymru Housing Association, in partnership with Cwm Taf Morgannwg University Health Board and Bridgend Council to deliver such an innovative and significant housing and healthcare scheme for the local people of Bridgend and the surrounding area.

“The vision of Sunnyside Wellness Village is to build on the existing commitment to caring for people in the community by providing state-of-the-art facilities and integrating wellness into the design of this multi-generational mixed-use development.”

Sarah Bradley, Assistant Director for Primary Care, Cwm Taf Morgannwg Health Board, said: “We are delighted to be part of this project which will include a new health centre to provide care for over 15,000 patients in the area. The new facility will bring integrated healthcare to the very centre of the community, providing improved access to services for patients and staff.”

 

WRW i ddechrau’r gwaith ar Sunnyside Wellness Village

Bydd WRW yn dechrau’r gwaith at Gynllun Sunnyside Wellness Village ddydd Llun 12 Hydref 2020, a fydd yn cynnwys gwaith paratoi’r safle, clirio’r tir, diogelwch a llwybr mynediad.

Mae’r cynllun £23 miliwn yn cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Tai Linc Cymru mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r datblygiad tai ac iechyd unigryw hwn yn cael ei gefnogi gan gyllid o £18 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yn creu datblygiad defnydd cymysg newydd sbon, ar safle hen Swyddfeydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a’r Llys Ynadon, yn cynnwys 59 o unedau tai, Canolfan Gofal Iechyd a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys tirweddu a seilwaith.

Mae’r elfen dai yn cynnwys tai deulawr gyda dwy, tair a phedair ystafell wely, byngalos un a dwy ystafell wely, bloc tri llawr o fflatiau un a dwy ystafell wely , a mannau parcio beiciau ar gyfer preswylwyr.

Bydd y ganolfan gofal iechyd sylfaenol dri llawr o safon cynllunio rhagorol BREEAM yn cynnig mannau ymgynghori a thriniaeth ar gyfer y bwrdd iechyd lleol, practis meddyg teulu ac uned ddeintyddol arbenigol, ac uned fferyllfa ar y llawr gwaelod.

Mae’r datblygiad yn cael ei gynllunio yn unol ag egwyddorion safonau WELL Building er mwyn sicrhau bod dulliau arloesol yn cael eu defnyddio lle’n bosibl i greu cymuned iach a hapus a sicrhau bod y prosiect yn creu cymuned naturiol.

Mae’r safon WELL Building yn rhoi iechyd a llesiant pobl wrth wraidd cynllun adeilad. Bydd y datblygiad yn cynnwys hidlyddion aer i wella ansawdd aer dan do ac ni fydd y deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu yn cynnwys unrhyw gemegau niweidiol.

Bydd Sunnyside Wellness Village yn canolbwyntio ar wyrddu hefyd. Bydd rhandiroedd yn rhoi’r cyfle i’r gymuned dyfu ffrwythau, lle i ymlacio a mwynhau natur mewn mannau gwyrdd â blodau gwyllt, tra bydd man chwarae plant wedi’i adeiladu â deunyddiau naturiol yn gwasanaethu teuluoedd ifanc.

Meddai Louise Attwood, Cyfarwyddwr Eiddo Linc: “mae Sunnyside Wellness Village yn ddatblygiad sy’n adlewyrchu ein diben, gan greu’r amgylchedd priodol i bobl ffynnu.

“Trwy gyfuno darpariaeth tai a gofal iechyd, gan roi llesiant wrth wraidd y datblygiad, bydd Sunnyside Wellness Village yn darparu cartrefi newydd sy’n diwallu anghenion pobl leol a chefnogi’r gymuned drwy ddarpariaeth canolfan iechyd fodern.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio law yn llaw ag WRW, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y datblygiad cyffrous ac arloesol hwn. Wrth i’r gwaith gychwyn ar y cynllun, mae’n gyffrous gweld ein gweledigaeth ar gyfer Sunnyside Wellness Village yn dechrau cael ei gwireddu.”

Meddai Huw Triggs, Cyfarwyddwr Adeiladu yn WRW: “Rydym yn falch iawn o gael ein dewis gan Gymdeithas Tai Linc Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu cynllun iechyd a gofal iechyd mor arloesol a phwysig i bobl leol Pen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau.

“Gweledigaeth Sunnyside Wellness Village yw mynd gam ymhellach na’r ymrwymiad presennol i ofalu am bobl yn y gymuned drwy ddarparu cyfleusterau modern ac integreiddio llesiant yng nghynllun y datblygiad defnydd cymysg amlgenhedlaeth hwn.”

Meddai Sarah Bradley, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: “Rydym yn falch tu hwnt o fod yn rhan o’r prosiect hwn a fydd yn cynnwys canolfan iechyd newydd i ddarparu gofal i dros 15,000 o gleifion yn yr ardal. Bydd y cyfleuster newydd yn dod â gofal iechyd integredig i ganol y gymuned, gan gynnig gwell mynediad at wasanaethau i gleifion a staff.”

Share this post