06th May 2020

Carer's Poem Brought to Life in TV Advert

Corporate News
A CARER'S POEM about her job has been brought to life in the form of a television advert, created by the WeCare Wales campaign.

The advert features the voice of Emma Pinnell, reading her poem “Just a Carer” that she wrote for and performed on Rhod Gilbert’s Work Experience programme, filmed at College Fields nursing home in Barry.

A clip of her reading her poem on the show was watched more than 1.6 million times on the BBC Wales Facebook page, generating thousands of supportive messages for her from around the world.

The advert will be premiered today on ITV after Paul O’Grady’s For the Love of Dogs at 8:58pm. It will also be shown on Channel 4’s On Demand services, and a translated version of Emma’s poem aired on S4C.

To help bring Emma’s words to life, it also includes a collection of home-footage taken from within care homes across Wales during lockdown. The clips show how carers are going above and beyond to ensure spirits are kept high and helping residents keep in touch with loved ones by using technology.

Emma Pinnell, Carer said: “I feel overwhelmed that my poem has sparked such interest and I feel honoured that it’s being used for the WeCare Wales TV advert.

“It highlights the amazing work that care workers do every day to make the people they care for happy, whether they look after people in a care home or support those in their own homes.

“I hope that my poem has helped people to think differently about care work and what it means. It is a privilege to care for someone else when they need it most. I encourage everyone who has thought about working in care to give it a go, it might just turn out to be the best job you’ve ever had.”

The WeCare Wales campaign was launched a year ago to raise awareness and understanding of the social care sector. The advert’s aim is to help to attract more people like Emma, who have the right skills and values, to consider working in care.

Right now, the focus is on how the care sector is coping during the coronavirus outbreak and this advert highlights how important carers are in being the lifeline our community needs.

Sue Evans, Chief Executive of Social Care Wales, said: “There’s a common misconception that working in care is a low-skilled job that anyone can do, but as Emma perfectly captures in her poem, it’s anything but. It’s a challenging, but rewarding job for the right person that requires specific skills and values, including patience, understanding, care and compassion.

“In these unprecedented times, our care workers have shown just how valuable they are and how vital their work is. Our frontline care workers have been continuing to provide excellent care and support to our most vulnerable adults and children throughout this outbreak, often in challenging circumstances.

“I thank them and salute them for their dedication and professionalism, and hope that following this crisis, care workers will finally get the recognition and appreciation they deserve, now and always.”

Julie Morgan, Deputy Minister for Health and Social Services added: “The current situation has placed a well-deserved spotlight on frontline workers in the health and care system. Day after day, thousands of carers continue to selflessly help others to stay safe and well, and this support has become even more crucial during this time.

“Emma’s words encapsulate the true meaning of what it is to be a carer; dedicated, highly-skilled and with a seemingly endless supply of thoughtfulness and grace. I want to offer a huge thank you to Emma and to every carer across Wales.”

An online jobs portal is now live to help social care employers urgently fill vacancies to cope with the demand. Since its launch at the start of lockdown, more than 13,750 visitors have scanned through more than 800 job vacancies in care.

 

Cerdd Gofalwr Yn Dod Yn Fyw Mewn Hysbyseb Deledu 

Mae cerdd gofalwr am ei swydd wedi dod yn fyw ar ffurf hysbyseb deledu, a grëwyd gan ymgyrch Gofalwn Cymru.

Mae’r hysbyseb yn cynnwys llais Emma Pinnell sy’n darllen “Just a Carer”; cerdd yr ysgrifennodd ar gyfer rhaglen Rhod Gilbert’s Work Experience, a ffilmiwyd yng nghartref gofal College Fields y Barri.

Gwyliwyd clip ohoni yn darllen y gerdd dros 1.6 miliwn o weithiau ar dudalen Facebook BBC Cymru, gan ddenu miloedd o negeseuon cefnogol o bedwar ban byd.

Caiff yr hysbyseb ei darlledu am y tro cyntaf heddiw ar ITV ar ôl Paul O’Grady’s For the Love of Dogs am 8:58yh. Caiff hefyd ei dangos ar wasanaethau On Demand Channel 4, gyda fersiwn wedi’i chyfieithu ar gyfer S4C.

Er mwyn helpu i ddod â geiriau Emma yn fyw, mae hefyd yn cynnwys casgliad o glipiau a ffilmiwyd mewn cartrefi gofal ledled Cymru yn ystod cyfyngiadau’r feirws. Mae'r clipiau'n dangos sut mae gofalwyr yn mynd y tu hwnt er mwyn sicrhau bod ysbryd pawb yn uchel a helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid trwy ddefnyddio technoleg.

Dywedodd Emma Pinnell, Gofalwr: “Dwi wedi synnu bod y gerdd wedi denu cymaint o ddiddordeb ac mae’n anrhydedd cael ei chynnwys mewn hysbyseb deledu ar gyfer Gofalwn Cymru.

“Mae'n tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae gweithwyr gofal yn ei wneud bob dydd i sicrhau fod y bobl maen nhw'n gofalu amdanynt yn hapus, boed hwy’n gofalu am bobl mewn cartrefi gofal neu yn eu cartrefi eu hunain.

“Dwi’n gobeithio bod fy ngherdd wedi helpu pobl i feddwl yn wahanol am waith gofal a’r hyn y mae’n ei olygu. Mae'n fraint cael gofalu am rywun arall pan maent ei angen fwyaf. Rwy'n annog pawb sydd wedi ystyried gweithio yn y maes gofal i roi cynnig arni, efallai mai dyna fydd y swydd orau a gawsoch erioed."

Lansiwyd ymgyrch Gofalwn Cymru flwyddyn yn ôl i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r sector gofal cymdeithasol. Nod yr hysbyseb yw helpu i ddenu mwy o bobl fel Emma, ​​sydd â'r sgiliau a'r gwerthoedd cywir, i ystyried gweithio yn y maes gofal.

Ar hyn o bryd, mae'r ffocws ar sut mae'r sector yn ymdopi yn ystod y coronafirws ac mae'r hysbyseb hon yn tynnu sylw at pa mor bwysig yw gofalwyr – nhw yw’r cymorth sydd ei angen ar ein cymuned.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae yna gamsyniad cyffredin bod swydd gofal yn un ag iddi sgiliau isel, un y gall unrhyw un ei gwneud, ond fel y mae Emma’n cyfleu’n berffaith yn ei cherdd, mae hynna’n bell o’r gwirionedd. Mae'n swydd heriol ond gwerth chweil i'r person iawn. Un sy'n gofyn am sgiliau a gwerthoedd penodol, gan gynnwys amynedd, dealltwriaeth, gofal a thosturi.

“Yn yr amseroedd digynsail hyn, mae ein gweithwyr gofal wedi dangos pa mor werthfawr ydyn nhw a pha mor hanfodol yw eu gwaith. Mae ein gweithwyr gofal rheng flaen wedi parhau i ddarparu gofal a chefnogaeth ragorol i'n oedolion a'n plant mwyaf bregus trwy gydol y cyfnod hwn - mewn amgylchiadau heriol yn aml.

“Rwy’n diolch iddynt am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb, ac yn gobeithio, wedi’r argyfwng hwn, y bydd gweithwyr gofal yn cael y gydnabyddiaeth a’r gwerthfawrogiad y maent yn ei haeddu or diwedd - nawr a hyd byth.”

Ychwanegodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae'r sefyllfa bresennol wedi rhoi sylw haeddiannol i weithwyr rheng flaen y sector iechyd a gofal. Ddydd ar ôl dydd, mae miloedd o ofalwyr yn dal i helpu eraill i gadw’n ddiogel ac yn iach, ac mae'r cymorth hwn wedi dod yn fwy hanfodol byth yn ystod y cyfnod hwn.

"Mae geiriau Emma yn crisialu gwir ystyr yr hyn ydyw i fod yn ofalwr; ymroddgar, hynod fedrus a gyda chyflenwad ymddangosiadol diddiwedd o feddylgarwch a gras. Hoffwn gynnig Diolch yn fawr iawn i Emma ac i bob gofalwr ledled Cymru.”

Mae porth swyddi ar-lein bellach yn fyw i helpu cyflogwyr gofal cymdeithasol i lenwi swyddi gwag ar frys  er mwyn ymdopi â'r galw. Ers ei lansio ar ddechrau'r cyfyngiadau, mae dros 13,750 o ymwelwyr wedi edrych trwy dros 800 o swyddi gwag yn y maes gofal.

Share this post